Apprenticeship Vacancies
Prentis Cynorthwyol Addysgu x 2
Job Description
Mae Ysgol Bethel yn ysgol gynradd ddwyieithog yng nghanol pentref Bethel, Gwynedd, sy'n darparu amgylchedd gofalgar, cefnogol ac ysbrydoledig lle caiff pob plentyn ei annog i freuddwydio, credu a llwyddo. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei hetifeddiaeth Gymraeg ac yn meithrin dysgwyr hyderus, annibynnol ac uchelgeisiol.
Duties include:
Fel cynorthwyydd addysgu, byddwch yn cefnogi athrawon a’n rhoi cymorth i blant gyda'u datblygiad addysgol a chymdeithasol, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi.
Bydd swyddi yn cynnwys:
- Cefnogi dysgwyr gyda'u sgiliau iaith a llythrennedd Cymraeg
- Cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- Cefnogi disgyblion ag anghenion meddygol ychwanegol
- Cefnogi disgyblion gyda'u rhifedd, llythrennedd a’u sgiliau TGCh
- Cefnogi’r dysgwyr mewn amrywiaeth o feysydd yn y dosbarth
- Deall y polisi diogelu ac ymddygiad a'u rôl o fewn y polisïau hyn
- Hyrwyddo diwylliant Cymreig
- Gweithio gyda phlant 3-6 oed
- Cefnogi athro mewn rolau amrywiol yn yr ystafell ddosbarth
- Gallu i ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser wrth weithio mewn ysgolion
Essential Criteria:
Meini Prawf Hanfodol:
- Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg
- Chwant i ddysgu mwy am ddod yn Gynorthwyydd Addysgu
- Brwdfrydedd dros weithio gyda phlant
- Meddu ar rinweddau perthnasol, gan gynnwys amynedd a sgiliau cyfathrebu
- Gallu i fod yn broffesiynol bob amser
- Gallu i wrando a dysgu gan staff mwy profiadol
Desirable Criteria:
- Profiad blaenorol o weithio gyda phlant
- Unrhyw brofiad blaenorol gydag anghenion addysgol arbennig
- Sgiliau Cymraeg, Saesneg a Mathemateg cryf
- Sgiliau cyfathrebu sy'n berthnasol i blant ac oedolion
- Sgiliau cymwys mewn rhifedd, llythrennedd a TGCh
- Gallu i hunanreoli a threfnu’ch amser eich hun
Rhinweddau personol
- Dibynadwy
- Gwedd daclus
- Agwedd broffesiynol
- Bydd angen aeddfedrwydd wrth weithio mewn amgylchedd ysgol
- Uchelgeisiol a gweithgar
- Eisiau bod yn fodel rôl gadarnhaol i bobl ifanc
Mae'r Brentisiaeth yn cynnwys addysg yn y gwaith ynghyd â hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n arwain at gymwysterau a’u cydnabyddir yn genedlaethol.
The Apprenticeship includes both on-the-job learning and off-the-job training which leads to nationally recognised qualifications