Apprenticeship Vacancies

Ysgol Gwaun Gynfi - Prentis Cynorthwyol Addysgu

Ysgol Gwaun Gynfi - Prentis Cynorthwyol Addysgu

Job Description

Location: Ysgol Gwaun Gynfi, 2 Pentre Helen, Caernarfon LL55 3LN
Hours: 30
Salary Type: £8.60 p/h

Mae Ysgol Gynradd Gwaun Gynfi yn ysgol groesawgar a chynhwysol gydag ethos Cymreig cryf a ffocws clir ar les disgyblion. Mae’r ysgol yn darparu cymorth meithrin gwerthfawr i ddisgyblion agored i niwed ac yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog a chreadigol sy’n datblygu hyder, gwaith tîm a sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Mae’r ysgol yn elwa ar arweinyddiaeth gref, llywodraethwyr cefnogol a thîm staff ymroddedig sydd wedi ymrwymo i welliant parhaus. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da ac yn mwynhau cyfrannu at eu dysgu, gyda chyfleoedd pellach i ddatblygu mwy o annibyniaeth a chymhwyso eu sgiliau’n fwy cyson ar draws y cwricwlwm.

Duties include:

Fel cynorthwyydd addysgu, byddwch yn cefnogi athrawon a’n rhoi cymorth i blant gyda'u datblygiad addysgol a chymdeithasol, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi.

Bydd swyddi yn cynnwys:

  • Cefnogi dysgwyr gyda'u sgiliau iaith a llythrennedd Cymraeg
  • Cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Angen rhoi cymorth gyda thoiledau
  • Cefnogi disgyblion gyda'u rhifedd, llythrennedd a’u sgiliau TGCh
  • Cefnogi’r dysgwyr mewn amrywiaeth o feysydd yn y dosbarth
  • Deall y polisi diogelu ac ymddygiad a'u rôl o fewn y polisïau hyn
  • Hyrwyddo diwylliant Cymreig
  • Gweithio gyda phlant 3-6 oed
  • Cefnogi athro mewn rolau amrywiol yn yr ystafell ddosbarth
  • Gallu i ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser wrth weithio mewn ysgolion

Essential Criteria:

Meini Prawf Hanfodol:

  • Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg
  • Chwant i ddysgu mwy am ddod yn Gynorthwyydd Addysgu
  • Brwdfrydedd dros weithio gyda phlant
  • Meddu ar rinweddau perthnasol, gan gynnwys amynedd a sgiliau cyfathrebu
  • Gallu i fod yn broffesiynol bob amser
  • Gallu i wrando a dysgu gan staff mwy profiadol

Desirable Criteria:

 

Nodweddion personol dymunol:

  • Profiad blaenorol o weithio gyda phlant
  • Unrhyw brofiad blaenorol gydag anghenion addysgol arbennig
  • Sgiliau Cymraeg, Saesneg a Mathemateg cryf
  • Sgiliau cyfathrebu sy'n berthnasol i blant ac oedolion
  • Sgiliau cymwys mewn rhifedd, llythrennedd a TGCh
  • Gallu i hunanreoli a threfnu’ch amser eich hun

Rhinweddau personol:

  • Dibynadwy
  • Gwedd daclus
  • Agwedd broffesiynol
  • Bydd angen aeddfedrwydd wrth weithio mewn amgylchedd ysgol
  • Uchelgeisiol a gweithgar
  • Eisiau bod yn fodel rôl gadarnhaol i bobl ifanc

Mae'r Brentisiaeth yn cynnwys addysg yn y gwaith ynghyd â hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n arwain at gymwysterau a’u cydnabyddir yn genedlaethol.  

Apprenticeships To Be Undertaken:
NVQ Lefel 2 neu 3 mewn Cefnogi, Addysgu a Dysgu

Apply Now!

BOOK A SUITABILITY CALL TODAY

 
Book Now!
X