Apprenticeship Vacancies

Ysgol Maes Garmon - Prentisiaeth Cymhorthydd Gweinyddol

Ysgol Maes Garmon - Prentisiaeth Cymhorthydd Gweinyddol

Job Description

Location: Ysgol Maes Garmon, Stryd Conwy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1JB
Subject: Cymhorthydd Gweinyddol
Hours: 30 awr yr wythnos
Contract: Yn ystod y tymor
Salary: £8.60p.h

Mae arwyddair yr ysgol sef ‘Ni lwyddir heb lafur’ mor berthnasol ag erioed. Mae ein safonau a’n disgwyliadau yn uchel gan sicrhau bod ein dysgwyr yn ymrwymo’n llawn i’w profiadau dysgu.

Yma yn Ysgol Maes Garmon rydym yn trin pob plentyn fel unigolyn, gan feithrin eu potensial, eu chwilfrydedd a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu. Mae ein staff yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol fydd yn caniatáu iddynt fod yn ddinasyddion gwybodus, a’u galluogi i symud ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth. Mae ein hysgol yn enwog am ymdeimlad o ‘deulu’ ac mae ein gwerthoedd craidd o fod yn hapus, cwrtais a gofalgar yn disgleirio trwy gymuned yr ysgol a thu hwnt.

Duties include:

O dan gyfarwyddyd / arweiniad staff uwch rhaid darparu cymorth gweinyddol / ariannol cyffredinol i'r ysgol

Sefydliad

  • Gweithio wrth y dderbynfa gan gyfarch pobl ac ateb ymholiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn
  • Cynorthwyo gyda dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy'n sâl, cysylltu â rhieni / staff ac ati
  • Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau ac ati

Gweinyddu

  • Darparu cefnogaeth clercio cyffredinol e.e. llungopïo, ffeilio, llenwi ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth gyffredinol
  • Cadw cofnodion â llaw a chofnodion cyfrifiadurol / systemau rheoli gwybodaeth
  • Llunio rhestrau / gwybodaeth / data yn ôl y gofyn ee data disgyblion
  • Teipio a geirbrosesu a gwneud tasgau Technoleg Gwybodaeth eraill
  • Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd
  • Trefnu a dosbarthu post, paratoi post sy’n mynd allan ar gyfer bostio
  • Ymgymryd â gweithdrefnau gweinyddol
  • Cynnal a chasglu adroddiadau disgyblion
  • Ymgymryd â gweinyddu arferol o osodiadau ysgol a defnyddiau eraill o dir yr ysgol

Adnoddau

  • Gweithredu offer / pecynnau TGCh perthnasol (e.e. Word, Excel, cronfeydd data, taenlenni, y rhyngrwyd)
  • Trefnu stoc a chyflenwadau, gan gatalogio a dosbarthu yn ôl yr angen
  • Darparu cyngor ac arweiniad cyffredinol i staff, disgyblion ac eraill
  • Ymgymryd â gweinyddu ariannol arferol, ee prosesu archebion

Cyfrifoldebau

  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a threfnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a diogelu data gan gydymffurfio â hwy ac adrodd am unrhyw bryderon wrth unigolyn priodol
  • Bod yn ymwybodol o, a chefnogi gwahaniaethu, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb
  • Cyfrannu at ethos / gwaith / nodau cyffredinol yr ysgol
  • Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth gweithwyr proffesiynol eraill
  • Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel bo'r gofyn

Essential Criteria:

  • Defnydd effeithiol o becynnau TGCh
  • Defnyddio offer/adnoddau perthnasol
  • Sgiliau teipio da
  • Dealltwriaeth o bolisïau/codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol
  • Y gallu i uniaethu’n dda â phlant ac oedolion
  • Gweithio’n dda fel rhan o dîm gan ddeall swyddogaeth a chyfrifoldeb staff yr ysgol a’ch swyddogaeth chi ymhlith y rhain.

Fel rhan o’r brentisiaeth hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi strwythuredig sy’n cynnwys:

  • Hyfforddiant yn y gweithle – ennill profiad ymarferol o fewn amgylchedd ysgol.
  • Hyfforddiant oddi ar y gwaith – mynychu sesiynau sy’n ymdrin â diogelu, rheoli ymddygiad, datblygiad plant, a strategaethau dysgu.
  • Asesiadau rheolaidd ac adborth i fonitro cynnydd a gwella sgiliau.
  • Cymorth dysgu ychwanegol, yn enwedig mewn llythrennedd, rhifedd, a chyfathrebu.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu gyrfa ym maes addysg gyda chyfleoedd i symud ymlaen ar gael ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.

Gofynion Mynediad a Disgwyliadau

  • Diddordeb cryf mewn gweithio mewn amgylchedd addysgol.
  • Parodrwydd i ddysgu ac ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol.
  • Ymrwymiad i gwblhau’r brentisiaeth ac ennill y cymhwyster.
  • Sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, a rhyngbersonol da.
  • Agwedd broffesiynol a chyfrifol tuag at weithio gyda phlant.
  • Cydymffurfiaeth lawn â pholisïau diogelu ac ymddygiad yr ysgol.
Training:
Gweinyddu Busnes Lefel 2
Qualifications
Yn ddelfrydol graddau A-C mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg
Apprenticeships To Be Undertaken:
Gweinyddu Busnes Lefel 2

Apply Now!

BOOK A SUITABILITY CALL TODAY

 
Book Now!
X