Apprenticeship Vacancies

Ysgol Y Moelwyn - Prentis Cynorthwyydd Addysgu

Ysgol Y Moelwyn - Prentis Cynorthwyydd Addysgu

Job Description

Location: Ysgol y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW
Hours: 30
Salary: £8.60 p/hr

 

Ysgol y Moelwyn yw ysgol gymysg fach ar gyfer disgyblion 11–16 oed. Mae wedi’i lleoli ar gyrion y dref arbennig o Flaenau Ffestiniog ac yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned. Mae pob plentyn yn bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu ei dalentau.

PWRPAS SWYDD

  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Cynorthwyo’r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

Duties include:

PRIF DDYLETSWYDDAU

 

Cefnogaeth i Ddisgyblion

 

  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
  • Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
  • Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
  • Darparu adborth effeithlon i’r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

 

Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes

  • Darparu adborth manwl a rheolaidd i’r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
  • Cysylltu â’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
  • Cysylltu â’r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
  • Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
  • Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i’r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
  • Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
  • Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogaeth i’r Cwricwlwm

 

  • Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytûn.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
  • Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
  • Cefnogi’r defnydd o TGaCh yn nysgu’r disgyblion a’u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio’r offer a’r adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r rhaglenni addysgu a’r gweithgareddau dysgu cytûn.
  • Cysylltu’n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

Cefnogaeth i’r Ysgol

  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
  • Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.

Essential Criteria:

- Cymraeg – sgiliau ysgrifenedig a llafar hanfodol

- Brwdfrydedd dros ddysgu

- Dibynadwyedd a phrydlondeb

- Sgiliau trefnu da

- Ymddangosiad taclus

- Agwedd broffesiynol

Desirable Criteria:

MANYLEB PERSONOL - Dymunol

Profiad

  • Gweithio gyda phlant o’r oedran briodol neu ofalu amdanynt.
  • Gweithio ar gais gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

Cymwysterau

  • Sgiliau rhif/llythrennedd da.
  • Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu.
  • Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo’n briodol.

Gwybodaeth/Sgiliau

  • Deunydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
  • Defnyddio offer a thechnoleg sylfaenol arall, e.e. fideo, llungopïwr.
  • Deall polisïau /côd ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, llwybrau cwricwlwm 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo’n briodol.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn.
  • Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio’n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a’ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

Mae'r Brentisiaeth yn cynnwys dysgu yn y gwaith ynghyd â hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.  

Qualifications
Level 2 NVQ in Supporting Teaching and Learning in Schools

Apply Now!

BOOK A SUITABILITY CALL TODAY

 
Book Now!
X